
Dyfodol Gwyrdd: mapio fel cyfrwng ar gyfer hunanfynegiant a chefnogi gwneud penderfyniadau

Yn fy rôl fel Mapiwr Cymunedol, rwy'n ymweld ag ysgolion cynradd yn Ynys Môn i gyflwyno gweithdai mapio gyda ffocws ar faterion amgylcheddol. Fel rhan o'r prosiect Llwyfan Map Cyhoeddus, rydym wedi bod yn chwilio am ffyrdd i annog pobl ifanc i ymgysylltu â mapio yn eu hardaloedd lleol. Rwyf wedi ymweld â nifer o ysgolion cynradd a chyflwyno plant i'r prosiect ac rwy'n awyddus i roi profiad i fyfyrwyr o sut y gall mapio fod yn gyfrwng ar gyfer hunanfynegiant a chefnogi gwneud penderfyniadau.
Y tymor diwethaf, fe wnes i ac Aaliyah, cyd-Fapiwr Cymunedol, ag Ysgol Parc y Bont a chyflwyno gweithdy ynni adnewyddadwy ar gyfer Blynyddoedd 5 a 6. Ar ôl cyflwyno’r cysyniad y tu ôl i'r Llwyfan Map Cyhoeddus a ‘gwyddoniaeth dinasyddion’, buom yn trafod ffyrdd y gallai'r Llwyfan helpu wrth wneud penderfyniadau am ddyfodol Ynys Môn. Yn ystod y gweithdy, bu plant hefyd yn dysgu mwy am newid hinsawdd a gwahanol ffynonellau ynni. Fe wnaethom ystyried sut y gall pobl chwarae eu rhan i leihau effeithiau newid hinsawdd ar lefel leol. Roedd y plant yn gallu mynegi dysgu blaenorol am newid hinsawdd a rhannu rhai syniadau gwych am ynni adnewyddadwy!
Y prif weithgaredd oedd Ymarfer Gwneud Penderfyniad ynghylch ble i osod tyrbin gwynt ar safle'r ysgol. Cynhaliodd y dysgwyr Asesiad Effaith Amgylcheddol o leoliadau posibl ar gyfer y tyrbin gwynt dychmygol. Mewn grwpiau, fe wnaethant fesur yr effeithiau sy'n aml yn gysylltiedig â thyrbinau gwynt, gan sgorio pob safle yn erbyn meini prawf amrywiol. Roedd cyfle hefyd i ychwanegu meini prawf ychwanegol at yr Asesiad Effaith Amgylcheddol. Roedd llawer o'r plant yn awyddus i ychwanegu eu cwestiynau eu hunain; asesodd un effaith tyrbin gwynt ar gae pêl-droed yr ysgol.

Defnyddiodd y plant offer arbenigol i fesur cyflymder a thymheredd y gwynt ar dir yr ysgol. Cawsant hwyl hefyd gyda rhai dulliau ‘technoleg isel’, megis defnyddio llinyn i fesur radiws o leoliadau posibl y tyrbinau gwynt.

Wedi hynny, dychwelodd y plant i’r ystafell ddosbarth i dynnu lluniau o fapiau yn dangos eu canlyniadau. Cawsant fap amlinellol o'r ysgol, a gymerwyd o OpenStreetMap, a'u hannog i fod yn greadigol a gwreiddiol wrth gyflwyno eu canfyddiadau. Roedd yn wych gweld dulliau amrywiol y plant o wneud mapiau a sut roedden nhw’n mynegi’r hyn oedd yn bwysig iddyn nhw trwy eu dewis o symbolau a thestun.



Rydym yn edrych ymlaen at ddychwelyd i Ysgol Parc y Bont yn y dyfodol i ddysgu sgiliau mapio digidol i'r plant.