
Ymatebion Diwylliannol i Archaeoleg Ynys Môn

Trwy gyfrwng prosiect y Llwyfan Map Cyhoeddus, rydym yn archwilio’r gwahanol ffyrdd yr awn ati i ymgysylltu â’n hamgylchedd, a’r hyn y mae’r mannau rydym yn byw ynddynt yn ei olygu i ni. Fel archeolegydd, rydw i wedi treulio llawer o amser yn ystyried y modd yr aeth pobl y gorffennol ati i ymgysylltu â’u tirweddau. O safbwynt rheoli treftadaeth, rydw i hefyd wedi meddwl am y gwerth a rydd cymunedau modern ar yr olion a adawyd gan genedlaethau blaenorol.
Yn ôl fy mhrofiad i, mae’r mwyafrif o bobl yn ymddiddori rhywfaint mewn olion archaeolegol; rhyfeddol yw meddwl am y modd yr arferai pobl fyw. Ond pan fo’r olion hynny i’w cael yn yr ardal a alwn yn ‘gartref’, a phan oedd y bobl a’u hadeiladodd yn arfer trigo yn yr un lle â ni, mae’r diddordeb yn treiddio’n ddyfnach.
Mae’r mannau y teithiwn drwyddynt bob dydd wedi deillio o genedlaethau o waith a datblygu. Cafodd y mwyafrif o’r adeiladau, y ffyrdd a’r terfynau caeau a welwn ac a ddefnyddiwn bob dydd eu hadeiladu’n wreiddiol gan genedlaethau’r gorffennol. Caiff olion eraill o’r gorffennol, na chânt eu defnyddio mwyach o bosibl, eu gwasgaru ar hyd a lled y dirwedd. Mae Ynys Môn yn doreithiog o olion archaeolegol, gan amrywio o’r cyfnod cynhanesyddol, trwy’r cyfnod Rhufeinig a’r Oesoedd Canol, hyd at genedlaethau mwy diweddar.
Mae’r nodweddion hyn yn y dirwedd yn cyfrannu at ymdeimlad o fod yn ‘gyfarwydd’ â lle arbennig.
Cefais fy magu yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, ac mae’r hen adeiladau diwydiannol brics coch, y camlesi, ac arogl y bragdy lle arferai fy nhaid weithio, yn cyfrannu at fy ymdeimlad o ‘gartref’. Wnes i ddim sylweddoli hyn hyd nes imi adael yr ardal. Bydd gan drigolion Ynys Môn eu nodweddion cyfatebol eu hunain. Y beddrodau siambr, efallai, sy’n debyg i frigiadau naturiol yr ynys. Olion yr hen felinau gwynt sydd ar wasgar ar y bryniau uchaf. Y ddwy bont sy’n cysylltu’r ynys â’r tir mawr. Y chwareli, sy’n gwbl wahanol i wyrddni iraidd y caeau o’u hamgylch. Tai cerrig yr aneddiadau niferus. Neu hyd yn oed y nodweddion pensaernïol hynod, unigryw, bach sy’n perthyn i ryw bentref arbennig.
Mae’r nodweddion hyn hefyd yn cyfrannu at ymdeimlad o berthyn a hunaniaeth. Maent yn dystiolaeth o’r bobl a fu yma o’n blaenau, a phwy oedd y bobl hynny. I’r rhai yr arferai eu cyndadau fyw o fewn y dirwedd, mae’r nodweddion hyn yn cynnig cysylltiad a pharhad. I’r rhai sy’n newydd i’r ardal, mae’r nodweddion hyn yn helpu i esbonio hanesion y tir y maen nhw bellach yn rhan ohono.
Ond sut y gallwn gyfleu’r teimladau hyn ar fap? Mae cryn drafod wedi bod ymhlith archaeolegwyr, yn enwedig ers cyflwyno Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol, ynglŷn â’r ffordd orau o gynrychioli ymdeimlad o le ar fap; y modd y gellir cyfleu teimladau pobl ynglŷn â’r byd o’u cwmpas. Gyda hyn mewn cof, meddyliais tybed sut y gallwn fynd ati i gasglu gwybodaeth am deimladau pobl ynglŷn ag archaeoleg yr ynys, a sut y gallwn gofnodi’r wybodaeth honno ar y map digidol a gaiff ei greu gennym. Trafodais hyn gyda Tristian Evans, ymchwilydd yn y tîm diwylliannol ac un o gyd-fapwyr y Llwyfan Map Cyhoeddus. Roedd Tristian yn ymwybodol o nifer o brosiectau diwylliannol a ysbrydolwyd gan olion archaeolegol Ynys Môn ac roedd o’r farn y gellid defnyddio’r rhain fel man cychwyn. Euthum i’r afael â rhagor o waith ymchwil a llwyddais i ddod o hyd i lawer mwy o brosiectau o’r fath. Mae nifer o gofadeiliau cynhanesyddol Ynys Môn wedi ysbrydoli celfyddyd, ffilmiau, cerddoriaeth a digwyddiadau, megis prosiect celf lle bu’r artist lleol Julie Williams yn gweithio gyda phlant ysgol i ddehongli rhai o feini hirion Ynys Môn yn artistig; y ffilm Songs from Stones, y’i dangoswyd am y tro cyntaf yng Nghastell Biwmares; ac albwm Megaliths Llyn y Cŵn, a ysbrydolwyd gan feini hirion, yn cynnwys rhai o feini hirion Ynys Môn. Mae nodweddion archaeolegol eraill wedi ysbrydoli gweithiau, megis y melinau a’r adeiladau amaethyddol a baentiwyd gan Kyffin Williams.
Roedd yn ymddangos y byddai cofnodi’r prosiectau hyn ar haen map yn ffordd wych o gasglu data’n ymwneud â’n teimladau ynglŷn ag archaeoleg yr ynys. Mae unigolion neu grwpiau wedi nodi nodweddion sy’n bwysig iddynt ac maent wedi mynegi’r teimladau hynny mewn ffordd greadigol ac agored. Roeddwn o’r farn bod hyn yn fan cychwyn defnyddiol, oherwydd ni chafodd y gweithiau creadigol hyn eu sbarduno gan brosiectau ymchwil a oedd yn annog pobl i feddwl pa nodweddion archaeolegol sy’n bwysig iddynt; digwyddodd yr ysbrydoliaeth yn naturiol, ac o’r herwydd cawn syniad o’r mathau o nodweddion a thirweddau sy’n bwysig i’n cymunedau, yn ogystal â’u hoff ffyrdd o fynegi’r teimladau hynny. Yna, gellir defnyddio hyn oll i geisio llywio ffyrdd o gasglu rhagor o wybodaeth am bwysigrwydd archaeoleg Ynys Môn i ni, yn y gobaith y bydd modd mapio’r nodweddion hynny a phennu eu bod yn deilwng o’u gwarchod. Hefyd, bydd y gwahanol ddyddiadau y crëwyd y prosiectau hyn yn ein helpu i weld sut y gall agweddau newid dros amser.
Ymhellach, bydd y map a gaiff ei greu yn cynnwys dolenni ar gyfer gwefannau, delweddau, fideos a sain, felly bydd modd rhannu’r gweithiau creadigol yn y ffyrdd hyn trwy gyfrwng y llwyfan. Bydd hyn yn helpu i ddatgelu’r syniad sydd wrth wraidd y prosiectau diwylliannol y tu hwnt i bwynt, llinell neu bolygon ar fap – gan fynd â ni gam yn nes at gyfleu meddyliau a theimladau ynglŷn â lleoedd trwy gyfrwng llwyfan mapio digidol.
Ar ôl i’r Llwyfan Map Cyhoeddus ennill ei blwyf, rydw i’n mawr obeithio y bydd pawb a fydd yn treulio amser ar Ynys Môn, neu a fydd yn clywed am brosiectau perthnasol, yn parhau i ychwanegu enghreifftiau o ymatebion diwylliannol i olion archaeolegol yr ynys, ac yn parhau i gofnodi’r safleoedd archaeolegol sy’n bwysig iddynt.